Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 22 Tachwedd 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09: - 11:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Julie Morgan Gwyn R Price Jenny Rathbone Aled Roberts Leanne Wood Andrew RT Davies (Cadeirydd) |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Y Fonesig Gillian Morgan, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru Michael Hearty, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Alun Davidson (Clerc) |
|||
|
|
||||
1. Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro
1.1 Gofynnodd y Clerc am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd dros dro i’r Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.22. Cafodd Andrew RT Davies ei enwebu gan Mohammad Asghar. Drwy hynny, penodwyd Andrew RT Davies yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y cyfarfod hwn a chyfarfod nesaf y Pwyllgor, ar 6 Rhagfyr 2011.
2. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2.1 Estynnodd y Cadeirydd Dros Dro groeso i aelodau’r Pwyllgor ac i’r cyhoedd.
2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar; roedd Andrew RT Davies yn dirprwyo ar ei ran.
3. Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011 - Yr Heriau Ariannol Allweddol a Wynebir gan Wasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru: Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
3.1 Estynnodd y Pwyllgor groeso i’r Fonesig Gillian Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol; June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau; Michael Hearty, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad; a Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.
3.2 Estynnodd y Pwyllgor groeso hefyd i Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Mark Jeffs, Swyddfa Archwilio Cymru.
3.3 Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i’r tystion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:
· Proffil o’r arbedion y bydd adrannau Llywodraeth Cymru yn eu gwneud dros y flwyddyn ariannol sydd i ddod.
· Rhagor o fanylion am gyllid ychwanegol a oedd ar gael i’r gwasanaeth iechyd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
· Sut y defnyddiwyd methodoleg ddarbodus i ddatblygu Cyswllt Ffermio, gan gynnwys dulliau o leihau’r amser y mae’n rhaid i gwsmeriaid aros.
· Atebion i’r cwestiynau na chyrhaeddodd y Pwyllgor yn ystod y cyfarfod.
4. Papurau i'w nodi
4.1 Cadarnhaodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod ar 8 Tachwedd 2011.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.